Pwy ydyn ni

Mae Fforwm Newid Hinsawdd Pobl Ifanc Cymru Gyfan (Fforwm YoCCo) wedi’i ariannu gan brosiect yr Oleufa am gyfnod o 18 mis (Rhagfyr 2009 tan Fai 2011). Mae’n gynllun cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy, Partneriaeth Môr Hafren a Techniquest.

Ein nodau ni

Dylanwadu ar sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn meddwl am eu rôl a’u dylanwad mwn byd lle mae’r hinsawdd yn newid, a hyn ar sail yr wyddoniaeth orau sydd ar gael. Sut aethon ni ati:

  • Hyfforddi academyddion a gwneuthurwyr polisi mewn technegau ymgysylltu
  • Sefydlu pedwar fforwm ieuenctid rhanbarthol yng Nghymru i adolygu’r opsiynau ar gyfer addasu at effaith newid yn yr hinsawdd
  • Cynhyrchu pecyn addysgol a gwefan i ysgolion uwchradd a cholegau Cymru
  • Llunio dogfen bolisi “ymateb pobl ifanc i newid yn yr hinsawdd’ i roi gwybod i wneuthurwyr polisi am farn pobl ifanc am addasu at newid yn yr hinsawdd.

Pwy rydyn ni wedi’u cynnwys:

  • Pobl ifanc o gymunedau gwledig yr arfordir ledled Cymru
  • Arbenigwyr addysg ledled Cymru
  • Gwneuthurwyr polisi ar lefel uchel yn y llywodraeth genedlaethol ac mewn llywodraeth leol, mewn asiantaethau amgylcheddol ac mewn sefydliadau y tu allan i’r llywodraeth.

Poster Fforwm Newid Hinsawdd Pobl Ifanc Cymru Gyfan (Saesneg)

 

Social Bookmark: Del.icio.us Social Bookmark: Digg Social Bookmark: Facebook Social Bookmark: reddit Social Bookmark: Stumbleupon Link to information page about social bookmarks


© 2002, 2009, site maintained by Severn Estuary Partnership | ContactCopyright